Dyfeisiau Allbynnu
Nodiadau Adolygu TGAU Cerys-Mair Griffiths
Beth yw Dyfais Allbynnu?
Dyfais Allbynnu yw darn o caledwedd sydd yn arddangos neu yn allbynnu data sydd wedi'i brosesu neu wedi'i storio ar gyfrifiadur. Y ffurf Dyfais Allbynnu fwyaf cyffredin yw papur wedi ei brintio, swn, fideo ac dogfennau ar - sgrin.
Mathau o Dyfeisiau Allbynnu, a Beth Maen't yn Wneud!
- Sgrin Cyfrifiadur - Yn dangos fideo's, dogfennau ar - sgrin, lluniau, arddangos testun neu rhifau!
- Argraffydd - Yn printio papur hefo dogfen, data neu llun arno!
- Seinydd - Yn taflu swn allan wrth gwrando ar caneuon neu fideo's ar y we!
- Taflunydd - Yn rhoi lluniau, dogfennau ar - sgrin, fideo's a.y.y.b ar bwrdd gwyn/canfas wen fel sgrin cyfrifiadur enfawr!
- Motor - Yn cael ei defnyddio i rhedeg gwrthrych e.e car neu peiriant!
- Golau - Yn rhoi golau allan!
Lluniau Rhai Mathau o Dyfeisiau Allbynnu
CPU (Central Processing Unit - Uned Prosesu Canolog)!
Rwy'n mynd ychydig bach oddi wrth y topig Dyfeisiau Allbynnu fan hyn i son am yr Uned Prosesu Canolog. Mae'n rhan o'r system cyfrifiadur sydd yn cael ei cyfeirio fel "ymennydd" y gyfrifiadur. Mae'r CPU hefyd yn cael ei adnabod fel y Prosesydd neu'r Microbrosesydd. Hwn sydd yn gyfrifol am weithredu dilyniant o gyfarwyddiadau wedi'i storio gelwir yn rhaglen. Mae'r rhaglen yn cymryd mewnbynnau o Dyfais Mewnbwn, prosesu'r mewnbwn ac ei allbynnu'r canlyniadau i Dyfais Allbynnu.