Tech-Dojo
Ysgol Bryn Elian yn y Gymuned
Beth yw Tech-Dojo?
Yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw, mae Llythrennedd Digidol yn cael ei dderbyn fel mater o ffaith, ond nid gymaint cyfrifiadura. Nod sector ni sy’n arwain sesiynau Tech-Dojo yw cyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf i’r gymuned leol, yn cynnwys yr holl randeiliaid. Os yn fyfyrwyr ar hyn o bryd, yn blant ysgol gynradd, yn blant a ddysgir cartref, rhieni a hyd yn oed athrawon eraill, fel dull o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), rydym yn cyflwyno’r posibiliadau o gyfrifiadura iddynt trwy gyfres o weithgareddau hwyliog. Rydym yn defnyddio Pi’s Raspberry yn helaeth i gyflwyno codio testun ac yn ychwanegu electroneg i’r cymysg fel gall y rhai sy’n cymryd rhan goleuo bylbiau a chodio cylchedau gweithredol.
Cysyniad Tech-Dojo
Ymhle? - Ysgol Bryn Elian – Bae Colwyn.
Pa Bryd? - Cynhelir hwy ar ddydd Sadwrn. Rydym eisoes wedi cynnal dau sesiwn, un ym Medi 2013, un yn Chwefror 2014, ac fe gynhelir y nesaf ym Medi 2014 ond rydym yn bwriadu mynd a’r Tech-Dojo ar y ffordd gan ymweld ag ysgolion cynradd yn ystod tymor yr haf!
Pwy gaiff fynychu? - Rydym yn hybu’r digwyddiadau trwy ysgolion cynradd lleol, Trydar ag App Tech-Dojo. Mae plant o ysgolion ledled Gogledd Cymru yn mynychu, yn ogystal ag athrawon sy’n ceisio DPP. Hefyd, mae aelodau’r Awdurdod Addysg Leol wedi mynychu er mwyn iddynt gael profi ein llwyddiant eu hunain.
Pam? - Nod y sesiynau hyn yn y pen draw yw codi ymwybyddiaeth o’r posibiliadau o ddefnyddio pethau megis Pi’s Raspberry, Scratch, Minecraft ag arfau adeiladu App i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd hyn. Trwy wneud hyn, rydym yn dechrau codi dyheadau pobl ifanc yn ein cymuned.
Tech-Dojo Medi 28ain 2013
Tech-Dojo Chwefror 8fed 2014
Cod Ymateb Cyflym
Natur gynhwysol y cysyniad
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym staff gyda’r arbenigedd, cymhelliad a’r brwdfrydedd ym maes cyfrifiadura i allu gwneud gwahaniaeth i’r gymuned trwy ein hagwedd cynhwysol tuag at weithio gyda hwy. Prun ai plant trosiannol neu arall, y peth pwysig i ni yw cael y dechnoleg yn nwylaw’r plant ac iddynt allu cyflawni eu potensial. Rydym hefyd eisiau cynnwys plant yn y gymuned sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref yn y sesiynau.
Gan ddefnyddio ymarferiad arloesol a ddatblygwyd yma ym Mryn Elian, ein nod yw cyflwyno sesiynau o’r radd flaenaf sy’n rhoi gwybodaeth ac yn addysgu. Ein gôl yw cyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosibl, i godi dyheadau ar draws y rhanbarth yn ogystal â pharatoi ysgolion am y newidiadau yn nhirlun addysg trwy ymarferiad arwain-sector.
Hyd yn hyn, rydym wedi rhedeg dau sesiwn Dojo llwyddiannus iawn, gyda dros 150 o blant o 20 o ysgolion ledled Gogledd Cymru yn cymryd rhan. Cawsom ddyddiau hwyliog a atgyfnerthwyd gyda thechnoleg gan sicrhau bod pawb oedd yn cymryd rhan yn cael hwyl, ac yn bennaf, yn dysgu! Mae cael effaith yn holl bwysig i ni. O ganlyniad i hyn, rydym yn gofyn am adborth ar bob sesiwn - bu’r sylwadau cadarnhaol yn syfrdanol!
Peth o’r adborth a dderbyniwyd gennym
"Syfrdanol" – Plentyn Blwyddyn 5
"Fedraf i ddim credu ei fod yn rhad ac am ddim!" - Kellie Williams – Athrawes y Flwyddyn 2013 Ysgolion Cynradd Cymru
"Diolch yn fawr, wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn!" -Rhiant
"Roedd yn ddiwrnod gwych, cefais lawer o hwyl.” - Plentyn Blwyddyn 4
"Am ddiwrnod ffantastig. Mae fy mab Mason yn 9 mlwydd oed ac yn eiriau ef ei hun ‘Diwrnod gorau fy mywyd’. Diolch” - Rhiant
"Mae’r dechnoleg mor gyraeddadwy. Rydym yn siŵr o roi cynnig ar Scratch a Minecraft adref!" -Rhiant
"Diolch am ddiwrnod gwych. Roedd yn braf cael rhannu’r profiad gyda fy mab " - Rhiant
"Roedd hyn yn ddefnydd da o ddydd Sadwrn + HWYL!!!" – Plentyn Blwyddyn 6
"Roedd yr athrawon, cynorthwywyr a’r disgyblion yn garedig, boneddigaidd ac yn gynorthwyol iawn " - Plentyn Blwyddyn 6
Adnodd mynd a phethau adref
USB Tech-Dojo
Gwobrau!
Lawr lwytho’r App Tech-Dojo
Pa weithgareddau sy’n digwydd?
Pi Raspberry
Rydym yn cyflwyno’r cyfrifiadur maint cerdyn credyd ac yn amlygu’r posibiliadau diderfyn a’r hwyl a geir gydag un o’r teclynnau hyn. Mae’r sesiwn yn cynnwys prosiectau gan ddefnyddio electroneg i wifrio ac i godio cylchedau gweithredol i oleuo LEDau. Wrth iddynt godio efo Python, gall y rhai sy’n cymryd rhan ymestyn eu prosiect cyntaf trwy gyflwyno botymau ar y cylchedau. Rydym yn defnyddio Pi Sonic hefyd er mwyn dangos sut y gellir codio cerddoriaeth ar y Pi Raspberry.
Rydym yn ceisio trefnu i bob digwyddiad fod yn wahanol ac rydym eisoes yn paratoi chwech o weithgareddau newydd ar gyfer y Tech-Dojo nesaf (Medi 2014). Yna byddwn yn creu rhithiau optegol ac yn creu gêm glasurol ‘wire-buzz’, oll ar Pi bydd plant wedi eu codio eu hunain!
Codio ar Pi Raspberry
Codio cerddoriaeth!
Arbrofi gyda’r GPIO
Codio
Gweithio ar y Pi
Arweinwyr Digidol
Gwaith Tîm
Cydweithio; cafodd y ddwy ferch yma hwyl fawr wrth godio ar y Pi.
Mae gennym olau gwyrdd!
Wedi synnu ac yn falch o’r hyn a gyflawnwyd mewn amser mor fyr.
Dad yn cynnig help llaw ychwanegol
Gwiriadau terfynol gan Dad
Fe wnaeth y tîm tad a merch yma yn arbennig o dda trwy ddarganfod gyda’i gilydd.
Canolbwyntio
Tîm yn rhannu eu gorfoledd!
Rhaglennu Gweledol Scratch
Yn yr amgylchedd rhaglennu gweledol Scratch, ein nod yw dangos i blant sut mae gemau mor boblogaidd yn cael eu gwneud. Y gêm a ddefnyddiwyd gennym yn ddiweddar yw’r ddyfais symudol glasurol ‘Angry Birds’. Mae plant yn dysgu am ddolennau a newidynnau wrth iddynt greu’r gêm ynghyd â symudiadau ac amodau ennill / colli.
Rydym eisoes wedi ailgymysgu ‘Flappy Birds’ yn Scratch i’w ddefnyddio yn y digwyddiad nesaf!
Popeth yn y cod!
Codio gweledol
Darganfod a Dysgu ar y Cyd!
Tad a’i fab yn cymryd eiliad i ddiheintio’u cod.
Codio ac arbrofi’r symudiad
Gan ddefnyddio newidynnau a dolennau, mae plant yn dysgu sut i gynhyrchu gêm weithredol.
Gweithio’n ddwys
Arweinwyr Digidol
Minecraft
Mae’n amlwg bod y ffenomenon byd-eang hwn, gyda gwerthiant o bron i 14 miliwn, yn rhywbeth gall plant cysylltu â. Mae Ysgol Bryn Elian wedi buddsoddi mewn Minecraft EDU i ddod a phoblogrwydd y gêm i’r ystafell ddosbarth. Yn ein sesiynau Tech-Dojo, rydym yn gosod nifer o heriau anodd lle rhaid i blant creu cylchedau gweithredol cymhleth gan ddefnyddio pyrth rhesymeg i gyflawni anghenion yr her. Nid yw’n rhyfeddod mai hwn yw un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd a gynigir gennym.
Wrth ddefnyddio bachyn mor fawr gyda’r plant rydym yn gallu creu dysg ddwys wrth iddynt ymddangos i fod yn ‘chwarae’r gêm’ maent yn ei garu.
Codi hyder
Mam yn rhoi cynnig ar Minecraft
Gwylia a dysga Dad!
Adeiladu atebion
Crefftwr am y tro Cyntaf
Crefft yn y cartref
Portreadu Delweddau
Rydym yn defnyddio eiconau a symbolau poblogaidd mae plant eisoes yn gyfarwydd â hwy mewn dull arloesol i gyflwyno sesiwn ar bortreadu delweddau. Cyflwynir plant i’r syniad o bicsel (elfen ddarluniadol) ac o ganlyniad, maent yn creu cylch allweddi 8 did gan ddefnyddio mwclis.
Creu bwyell aur efo Minecraft
Defnyddio cynlluniau i ail-greu delweddau mewn arddull o gylch allweddi 8 did.
Dirmygadwy!
‘Creeper Heads’ a TNT
Mario dal yn fyw!
Creu ‘Minecraft Pick Axe’
Mae’r dasg o bortreadu’r ddelwedd angen cywirdeb manwl
Pontio’r bwlch!
Creu Apps
Gan ddefnyddio Appshed, fe gyflwynir y rhai syn cymryd rhan i greu apps ar gyfer ddyfeisiau symudol. Rydym yn dangos iddynt sut y gellir gwneud ap. o fewn 1 awr a’i drosglwyddo’n ddi-oed i’w ffon symudol. Yn ystod y sesiwn hwn, mae’r disgyblion yn cysylltu eu hadnoddau a’r cynnwys i greu app. sy’n gweithio’n llawn. Mae’r sgiliau a ddysgir yma i’w gweld am yn hir wedyn mewn cyfres o apps a grëwyd ganddynt er hynny. Roedd hwn yn sesiwn arbennig o fuddiol i rieni hefyd oherwydd dyma rywbeth yr hoffent hwy ddysgu sut i’w gwneud hefyd.
Tech-Dojo in the press
Allen Heard – Sylfaenydd Tech-Dojo Ysgol Bryn Elian
Allen Heard yw Pennaeth TG / Cyfrifiadura, a Busnes yn Ysgol Bryn Elian. Mae ganddo feddylfryd arloesol blaengar ac fe lwyddodd i ddatblygu cyfres o adnoddau i i wella, dysgu, dysg ac ymddygiad. Mae Allen yn gweithio’n agos iawn gydag athrawon TG eraill a’r Rheolydd TG i drefnu’r digwyddiadau hyn.
Fel gwyddonydd cyfrifiadura, mae Allen yn awyddus i ddefnyddio technoleg i roi profiadau addysg ddwys sy’n ymestyn ymhell o fod yr hyn su’n arferol. Allen oedd yr athro cyntaf yng Nghymru i ddatblygu clwb Minehead un pwrpas i ddysgu pethau megis cymuned, parch, cydweithio, datrys problemau a chreadigedd. Ef hefyd a ddatblygodd App (Escape from Byron Bay) i ddysgu Ffuglen Ryngweithiol i fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 fel dull o wella llythrennedd. Gan fynychu nifer o gyfarfodydd - dysgu ledled Gogledd Cymru, mae Allen wedi rhannu ei waith ar Cloud based learning, Digital Leaders, ag Interactive fiction, i rymuso athrawon ardraws y rhanbarth yn y defnydd o dechnoleg Web 2.0 er mwyn gweithio’n agos gyda myfyrwyr ag i rannu ei brofiadau.
Yn fwy diweddar, ar wahân i’w waith yn y sesiynau Tech-Dojo, mae Allen wedi datblygu meddalwedd monitro ymddygiad a gwobrwyo sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn Ysgol Bryn Elian. Mae effaith hwn i’w weld yn y gostyngiad o 63% yn y digwyddiadau ymddygiad yn yr ysgol dros gyfnod o 18 mis. Mae’r meddalwedd hwn yn cael ei farchnata ganddo i ysgolion eraill.
Wrth edrych at y dyfodol, mae Allen a’r tîm Tech-Dojo yn paratoi i fynd a’r cysyniad ar daith, i gyflwyno sesiynau cyfrifiadura o ansawdd i blant mewn ysgolion cynradd. Maent hefyd yn bwriadu paratoi’r athrawon DPP hanfodol bydd eu hangen i fod yn barod ar gyfer y cwricwlwm cyfrifiadura newydd. Maent yn gobeithio arwain nifer o ysgolion tuag at gymryd eu camau cyntaf i fynd i’r afael a’r Computing Progression Pathway diweddaraf.
Email: ahd@brynelian.conwy.sch.uk
Website: www.mrheard.co.uk
Location: LL298HU, United Kingdom
Twitter: @MrAHeard