Bws Cyfeiriad
Deunydd adolygu Systemau Cyfrifiadurol
Gan Dewi Roberts
BWS CYFEIRIAD
Mae Bws cyfeiriad yn bws cyfrifiadur(sef llinellau yn cysylltu dau neu fwy ddyfais) sydd yn cael ei ddefnyddio i amlinellu cyfeiriad ffisegol.
DIFFINIAD BWS CYFEIRIAD
Bws cyfeiriad yw casgliad o wifrau sy'n cysylltu'r CPU gyda'r prif gof sy'n cael ei ddefnyddio i adnabod cyfeiriadau yn y prif gof.
LLED BWS CYFEIRIAD
Mae lled bws cyfeiriad yn crynhoi'r cyfaint o gof sydd yn gallu cael ei ddefnyddio gan y system. Er enghraifft, mae system sydd gyda bws cyfeiriad o 32-bit yn gallu cael ei cyfeirio i 4,294,967,296 lle cof. Os mae pob cof yn dal un byte, mae yna ddigon o le i 4GB.
AMLBLECSYDD
Mewn cynllun cyfeiriad amlblecsydd, mae'r cyfeiriad yn cael ei ddanfon i ddau rhan cyfartal ar pob yn ail cylchdroad bws. Mae hon yn hanneri'r nifer o arwyddion fysiau cyfeiriad sydd angen i gysylltu gyda'r cof e.e mae bws cyfeiriad 32-bit yn danfon 16 llinell,yn cynnwys y rhan cyntaf o'r cof, yna yn cael ei ddilyn gan yr 16 llinell arall, sef yr ail rhan. Mae cyfrifiaduron newydd gyda chymaint a 36 llinell sy'n galluogi'r cyfrifiadur i gael mynediad i 64GB o phrif gof. Ond fel arfer mae hyn yn llawer yn llai oherwydd ffin y 'chipset' a'r 'motherboard'.