Sut i flogio'n gyfrifol
BYDDWCH YN DDIOGEL
A ydych chi'n gwybod sut i flogio'n gyfrifol?
Ar y daflen wybodaeth hon rwyf yn mynd i bwysleisio sut i flogio'n gyfrifol!
- Pan yn blogio mae'n rhaid cymryd i ystyriaeth beth sydd yn ddiogel a beth sydd ddim yn ddiogel i'w ysgrifennu.
- Yn gyntaf, ni ddylech BYTH rhoi eich manylion personol ar y blog i bawb i weld, gwybodaeth megis eich enw llawn chi, neu hyd yn oed enw llawn ffrind. Dylech gyfeirio at bobl trwy eu henw cyntaf yn unig. Ni ddylech ychwaith rhoi eich cyfeiriad, rhif ffon, e-bost na hyd yn oed enw eich rhieni.
- Dylech gadw eich cyfrin air yn gyfrinachol.
Byddwch yn ddoeth ; byddwch yn ddiogel!
Byddwch yn synhwyrol wrth flogio
Diogelwch yn gyntaf!
Bod yn gyfrifol pan yn nodi sylwadau ar flogiau eraill!
- Cofiwch, pan rydych yn gadael sylwadu ar flogiau eraill rydych yn gadael llwybr ar eich hol sef y llwybr digidol. Cofiwch nad yw'n bosib cael gwared o hyn ar ol i chi bostio eich sylwad. Felly, gwnewch sylwadau doeth!
- Cofiwch hefyd bod hi'n bwysig i chi barchu gwaith pobl eraill gan osgoi rhoi sylwadau cas ac anghwrtais. Dylech roi sylwadau positif trwy'r amser a dylid ymateb i sylwadau mewn ffordd arbennig megis, Tybed pam?... Beth am ystyried ?... a.y.y.b